Eisteddfod Papurau Bro - Clonc yn ail
Eifion Davies - cyntaf am adrodd stori gelwydd.
Beirniad yr eisteddfod oedd Dewi Pws ac arweinydd y noson oedd Ifan Gruffydd.
Cafodd Dylan Lewis y wobr gyntaf am baratoi 5 dihareb gyfoes. Dyma nhw:
Gwell awr mewn ffwrn na dwy mewn microdon.
Gorau clecs papur bro.
Cadw hwfyr a sgubo ei hunan.
Tecach siarad na thecstio.
Nid aur a geir ar e-bay.
