Cyflwyno sieciau - sef elw'r gyfrol 'Cymeriadau Bro'
Swyddogion Papur Bro 'Clonc' yn cyflwyno elw'r gyfrol "Cymeriadau Bro" gan Twynog Davies yn ystod eu pwyllgor blynyddol yn y Fishers Arms, Cellan. O'r chwith - Nia Davies, Trysorydd yn cyflwyno siec o £250 i'r Cyng Haydn Richards, Apêl Eisteddfod yr Urdd 2010 Llanwenog a Llanwnnen; Mary Davies, Ysgrifenyddes yn cyflwyno £250 i'r Cyng Odwyn Davies, Apêl Bro'r Dderi; Twynog Davies, yr awdur, yn cyflwyno £500 i Rhian Jones, Eisteddfod Rhys Thomas James, Llambed a Marian Morgan, Is Gadeirydd yn cyflwyno £500 i Dorian Jones, Apêl yr Urdd 2010 Llambed. Hefyd yn y llun mae Dylan Lewis, Cadeirydd; Eifion Davies, Cyn Gadeirydd a Rhian Jones, Golygydd.
