Llyfr Gwesteion Clonc
Croeso i'r Llyfr Gwesteion
Croeso i chi adael sylwadau am y safle gwe hwn, am unrhyw rifyn o'r papur bro neu am unrhyw ddigwyddiad Cymraeg yn yr ardal.
| Catrin Bellamy Jones | 17 April 2008 15:52:30 |
Ma'r wefan yn gret! Fi'n disgwl mlan i ddarllen Clonc pob mis ac mae fel petai yn gwella o hyd ac o hyd! Gallai un o bapurau wythnosol y sir ddysgu lot o Clonc! | |
| Martin Riley | 07 April 2008 17:19:45 |
Da iawn gweld y fath fenter. Hyderaf y gallwn afael mewn menter debyg! | |
| John Evans | 25 February 2008 12:08:18 |
Llongyfyrchiadau ar wefan ddiddorol ac ar Bapur diddorol, oddi wrth Seren Hafren | |
| Haulwen Lewis | 24 February 2008 19:03:41 |
Llongyfarchiadau i Clonc ar ei gwefan newydd, a phob dymuniad da i'r dyfodol. | |
| Arwel Pierce (Ysgrifennydd) | 24 February 2008 11:10:57 |
Llongyfarchiadau ar eich menter newydd a phob llwyddiant. | |
| Edwyn Williams | 17 February 2008 00:19:30 |
Pob hwyl gyda'r fenter o greu gwefan. Mae'n hynod ddiddorol. Pob lwc gan holl swyddogion Glo Man (papur bro Rhydaman a'r cylch) | |
| Elin Jones AC | 13 February 2008 22:54:43 |
Mae'n dda gweld CLONC ar y we, ac mae'r safle yn glir a defnyddiol. Bydd y safle yma yn ffordd gwych i gadw llygad ar hanesion yr ardal. | |
| Megan Jones | 05 February 2008 12:54:56 |
Llongyfarchiadau ar eich gwefan newydd. Ma' fe yn edrych yn broffesiynol iawn. Pob llwyddiant i CLONC yn y dyfodol - oddi wrth Tîm Prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro | |
| Eryl Jones | 28 January 2008 22:27:47 |
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd a fu ynglwm a gweithio a pharatoi er mwyn sicrhau yr anrhydedd yma. Rwyn siwr fod pawb yn ardal Bro Clonc mor prowd ohonoch ac o'n papur misol ac rwyn gwybod fod gwaith caled ac amser mawr yn mynd i baratoi papur o'r safon yma. | |
| Dilwyn Jones | 28 January 2008 22:26:34 |
Llongyfarchiadau i bawb o’r tim – gwych! Da gweld fod y panel gwobrwyo wedi cydnabod eich ymdrechion i ddatblygu Papur Bro penigamp sy’n esiampl ar lawer ystyr i bapurau eraill. | |
| Catrin Miles | 28 January 2008 22:25:00 |
Llongyfarchiadau brwd i chi a thîm CLONC ar eich llwyddiant. Noson lwyddiannus dros ben rhwng popeth. | |
| Elfyn Davies | 28 January 2008 22:23:53 |
Newyddion da - llongyfarchiadau i bawb, a dymuniadau gorau i CLONC yn y dyfodol! | |
| Hazel Thomas | 28 January 2008 22:22:37 |
Da iawn chi gyd a llun da o Mary a Nia | |
